Rhian Staples
Magwyd Rhian Staples yn y Bala ac ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth bu'n gweithio ym myd y theatr am ddeng mlynedd. Bellach mae'n byw yn Abertawe ac yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Enillodd Rhian y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2011.