Robyn Lewis
Bu Robyn Lewis yn Archdderwydd Cymru (2002-2005) - y Prif Lenor cyntaf i ddal y Swydd. Mae'n fargyfreithiwr, a bu'n Ddirprwy-Farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron am wyth mlynedd. Dyfarnwyd iddo radd PhD am draethawd ymchwil dwy gyfrol, "Geiriaduraeth y Gyfraith" ac enillodd "Esgid yn Gwasgu" iddo'r Fedal Ryddiaith. Mae ef a'i briod, Gwenan, yn byw yn Nefyn, Llŷn ac maent yn hoff o grwydro'r byd.