Alun Cob
Mewn bywydau blaenorol bu Alun Cob yn gweithio yn siop Recordiau'r Cob ym Mangor, bu'n berchennog ar Recordiau'r Ci Du yng Nghaernarfon a bu'n gweithio yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy. Mae'n byw yng Nghaernarfon. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Pwll Ynfyd yn 2011, y dilyniant Tarw Pres yn 2012 a'r olaf yn y drioleg, Gwyllgi, yn 2013. Ers hynny cyhoeddwyd Sais yn 2014 a Mametz yn 2016. Tacsi i'r Tywyllwch yw chweched nofel Alun a gyhoeddwyd yn 2018.