Wynford Ellis Owen
Mae Wynford wedi bod yn actor llwyfan a theledu am dros 30 mlynedd; mae�n awdur cyhoeddedig ac yn ddramodydd a sgriptiwr dram�u radio a theledu, yn ogystal � bod yn gyfarwyddwr. Ef ysgrifennodd y ffilm Porc Pei a ddyfarnwyd y ffilm orau yng Ngw�yl Ryngwladol V�rzburg yn yr Almaen yn 1999 � ac sydd wedi datblygu�n gyfres hynod lwyddiannus a phoblogaidd, Porc Peis Bach, ar S4C. Ef hefyd oedd cr�wr a chyd-sgriptiwr y cyfresi cwlt i blant, Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Addysgwyd ef yn Nyffryn Nantlle ac wedyn yng Ngholeg Addysg Cyncoed, Caerdydd a Choleg Cerdd a Drama Cymru cyn ymuno �r BBC yn 1969. Treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Llansannan yn yr hen sir Ddinbych, a rhelyw ei blentyndod yn Llanllyfni yn yr hen sir Gaernarfon, ble roedd ei dad, Robert Owen, yn weinidog gydaメr Methodistiaid Calfinaidd. Bellach maeメn byw yng Nghreigiau, ger Caerdydd.