Cyfrol yn dathlu canmlwyddiant deiseb heddwch menywod Cymru
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ddwyieithog amlgyfrannog sy’n rhannu stori ryfeddol Deiseb gan fenywod Cymru am heddwch byd. Roedd y Ddeiseb, a ddechreuwyd yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gofyn i fenywod America i gydweithio â nhw yn enw heddwch, ac fe’i llofnodwyd hi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru – canran sylweddol y boblogaeth ar y pryd.
Mae 2023 yn nodi canmlwyddiant y Ddeiseb ac am y tro cyntaf mae’r hanes ysbrydoledig ar gael ar ffurf cyfrol, Yr Apêl – Hanes Rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923–24 (Y Lolfa) a honno wedi’i golygu gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers. Mae’r Prifardd Mererid Hopwood hefyd wedi ysgrifennu’r cywydd ‘Nes Dod’ am yr hanes a hwnnw sy’n cloi’r llyfr.
Mae awduron amrywiol y gyfrol hon yn rhannu’r stori syfrdanol am sut y trefnwyd y Ddeiseb a’i chludo i America, sut y collwyd pob golwg ohoni a sut y cafodd ei hailddarganfod ganrif yn ddiweddarach. Stori wir yw hi mewn geiriau a llun am sut gwnaeth menywod herio’r drefn.
Yn 2014, daeth testun yr Apêl a wnaed ym 1923 i olau dydd yn Nheml Heddwch ac Iechyd Caerdydd, wrth i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd baratoi at nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’i rhaglen ‘Cymru dros Heddwch’. Roedd y Ddeiseb Heddwch yn galw ar America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd i atal argyfwng rhyfel arall, ar ôl erchylltra’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dan arweiniad Annie Jane Hughes Griffiths (Cwrt Mawr) teithiodd dirprwyaeth o Gymru i America gyda’r nod o gysylltu gyda menywod America. Cyflwynwyd y Ddeiseb i gynrychiolwyr sefydliadau heddwch menywod America oedd yn cwmpasu aelodaeth o filoedd o fenywod, a daeth yn bedair o Gymru i gysylltiad â rhai o fenywod mwyaf dylanwadol y wlad. Cyflwynwyd y ddeiseb hefyd i’r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn, lle cafwyd croeso cynnes.
Cafwyd hyd i’r Ddeiseb wedi ei storio yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington DC, dal yn ei gist dderw gwreiddiol o waith Mr J. A. Hallam. Yn Ebrill 2023, gan mlynedd ar ôl cludo’r Ddesieb, fe’i dychwelwyd i Gymru fel rhodd i’r genedl gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac arian gan y Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol yn sicrhau bod pobl Cymru a thu hwnt yn medru dysgu am y bennod ddiddorol yma yn ein hanes. Meddai’r Golygyddion Mererid Hopwood a Jenny Mathers:
“Ein gobaith ni yw y bydd darllen yr hanes yn ein hysbrydoli i barhau i weithredu yn ysbryd y menywod o Gymru a ddychmygodd, trefnu a llofnodi’r Apêl. Cyflwynai’r ddogfen weledigaeth fawr i’w holl ddarllenwyr. Deil y weledigaeth honno’r un mor fawr a’r un mor ddilys heddiw.
Yn ei chyflwyniad, dywed Jill Evans, Cadeirydd Pwyllgor Ymchwil Partneriaeth Hawlio Heddwch:
“Hanes menywod yn goresgyn gwahaniaethau gwleidyddol, ideolegol a diwylliannol er mwyn ymgynnull a gweithredu dros heddwch. Mae’n amlwg fod trefnwyr a llofnodwyr Deiseb 1923 i’w cael mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Un o’u cryfderau oedd y ffaith eu bod yn cynnwys pawb, nid dim ond y breintiedig rai.”