Anaml y bydd rhywun yn ddigon enwog i hepgor ei gyfenw. Ond doedd dim galw am na Davies na Williams wrth drafod y saithdegau yng Nghymru: mae'r enwau Ryan a Ronnie yn ddigon i ddisgrifio'r arian byw bach tenau o Lanaman, a'r straight-man golygus, tywyll, suave o Gefneithin. O lethrau'r Mynydd Du a glannau Llyn Llech Owain, nid nepell oddi wrth ei gilydd yn sir Gaerfyrddin, gan ddilyn llwybrau gwahanol drwy Fangor, Llundain a Chaerdydd, y daeth dau o ddiddanwyr mwyaf dawnus yr ugeinfed ganrif ynghyd. Yn y gyfrol ddadlennol a storïol hon, gan un a oedd yn adnabod y ddau'n dda, cawn gip y tu ôl i'r llenni ar fywydau'r ddau a gymharwyd â Morecambe a Wise a'r Ddau Ronnie, ond a oedd, yn y pen draw, yn neb llai na nhw eu hunain. Er bod rhannau helaeth o stori'r ddau gyda'i gilydd ac ar wahân yn wybyddus, mae'r gyfrol bersonol a gafaelgar hon yn datgelu sawl cyfrinach, ac yn rhoi blas ar y chwys a'r gwaed sy'n bris y mae'n rhaid ei dalu am enwogrwydd.