Adolygiadau
"'Y Ddyled' Llwyd Owen yn gampwaith. Clasur sy ymysg y nofela gora imi rioed ddarllan. Wedi mwynhau pob gair a munud wrth ddarllan. Top styff."
- Dewi Prysor
"Mae ysgrifennu am nofelydd Cymraeg yn rhoi cyfle i Llwyd yr awdur drafod y byd llenyddol yng Nghymru, gan dynnu ambell flewyn o sawl trwyn... Cryfder Llwyd yw ei arddull. Mae'n ysgrifennu'n rhwydd ac yn amrwd iawn. Mi gadwodd y stori a'r arddull fy niddordeb hyd at y diwedd anochel."
- Catrin Beard
"Yn fwriadol wedi peidio darllen penodau olaf 'Y Ddyle' Llwyd Owen neithiwr. Barod amdani 'da disied yn y gwely, gweddu'r nofel weden i!"
- Bethan Williams, @bethan_wil
"Newydd orffen hwn. Waw. Gripping. Da iawn Llwyd Owen a clawr da, Steff Dafydd!"
- Geraint Lovgreen, @ddim_yn_sant
"Mae Llwyd Owen wedi'w gneud hi unwaith eto! Newydd orffen Y Ddyled - nofel wych - heb allu ei rhoi hi lawr.,,"
- Meic Parry, @meicparry
"Newydd ddechre darllen nofel diweddara @Llwyd_Owen #YDdyled ar y tiwb. Chwerthin yn uchel yn ystod yr awr frys."
- Gareth Potter, @Monsieur_Potter
"Di darllen #YDdyled @Llwyd_Owen mewn llai na 24 awr. Ffili rhoi e lawr. Gwych."
- Rhiannon Williams, @RhiannonMichael
"Mae Y Ddyled yn haeddu ei le fel un o nofelau gorau Llwyd Owen. Mae'r awdur yn chwerthin ar ei ben ei hun ac eraill drwyddi ac mae'r arddull yn hyderus a rhwydd. Ceir yma stori gyffrous am gangsters a chyffuriau, dychan ar grach-lenyddiaeth a phortread o flynyddoedd yr arddegau mewn ysgol ddwyieithog yng Nghaerdydd. Hyn oll ynghyd ag ymddangosiad cameo gan Jon Gower – beth arall mae rhywun ei eisiau mewn nofel?"
- Arwel Vittle, Barn
"Llwyd Owen yw un o'n storïwyr cyfoes mwyaf llwyddiannus... Chwip o stori, lle mae'r is-fyd troseddol yn cyffwrdd â byd dosbarth canol Caerdydd. Mae'r dweud yn llawn cyffro, a'r dychan a'r hiwmor du yn cyfoethogi'r naratif. Mae hwn yn dir cyfarwydd ac yn diriogaeth y mae Llwyd Owen wedi ei lwyr berchenogi yn y Gymraeg."
- Sioned Williams, Cylchgrawn Taliesin
"Mae hi'n nofel sy'n hawlio sylw o'r cychwyn cyntaf ac nid oherwydd ei natur rywiol a threisiol yn unig. Mae'r cymeriadau yn taro deuddeg... Cryfder mawr Llwyd Owen yw ei allu i ddisgrifio a chyfosod bywydau o'r dosbarth canol uwch, ochr yn ochr â phobl ymylol yr isfyd gan wneud hynny yn gwbl gredadwy... Mae'r pendilio o un byd i'r llall a'r pendilio rhwng y gorffennol a'r presennol wedi ei wau yn gelfydd iawn ac mae rhywun yn awchu i ddarllen mwy a chael ffics arall... Mae bywyd i gyd bron yn y nofel hon - tristwch, hapusrwydd, hiwmor, siom. Mae popeth am y nofel yn hawlio sylw. Mae hi'n ffres, yn wreiddiol, yn fywiog ac mae arddull rwydd, amrwd a dychanol y sgwennu yn siwr o gadw rhywun ar flaenau ei draed."
- Marged Tudur, Yr Heriwr