Adolygiadau
"Medrwn grynhoi fy ymateb i'r nofel hon mewn dau air yn unig: mwynhad pur. Bu'r profiad yn ddihangfa bleserus rhag nofelwyr sy'n cymryd eu hunain ormod o ddifrif. Mae Leni Tiwdor yn greadigaeth gampus... Yn y broliant cymharir Euron Griffith â Nick Hornby. I mi mae'n fy atgoffa fwy o Carl Hiassen. Ond y gwir amdani yw mai llais Euron yw hwn. Llais clir a huawdl. Llais unigryw. Gall y nofel hon fod y gyntaf o gyfres o anturiaethau Leni Tiwdor, Ditectif Preifat."
- Lyn Ebenezer
"Wnes i fwynhau'r nofel hon yn fawr iawn. Plot ardderchog, cymeriadau annwyl, anobeithiol, a'r ysgrifennu'n cadw sylw'r darllenydd o'r dechrau i'r diwedd."
- Bethan Mair
"Mwynhad i'w darllen – digon o hwyl a hiwmor yn ymylu ar y tywyll weithiau. Mi lasech deimlo'n euog am ei darllen yn electronig (un o'r themâu) ond mae'n addas iawn i'r cyfrwng. Nofel ddelfrydol i ddynion ifanc, fuaswn i'n dweud, ond mi wnaiff apelio at ystod mwy na hynny hefyd... Mae'n nofel glyfrach nag mae'n ymddangos, ond yn dal yn ysgafn – dyna gamp yr awdur. Edrych ymlaen am fwy."
- Darllenydd, Amazon
"Nofel ddoniol, boblogaidd, wedi'i llunio yn arddull Nick Hornby, yw ail nofel Euron Griffith. Stori gwrtharwr yw hon, wedi'i dweud yn glyfar, gan wneud hwyl am ben ei ffaeleddau niferus. O ran strwythur mae'r pwyslais ar gerddoriaeth yn elfen gref iawn yn llwyddiant yr awdur i gadw'r nofel yn dynn. Cefais hyn yn gryfder. Dyma nofel sionc, anterliwtaidd... mae oriau o ddarllen difyr yn y gyfrol hon."
- Gwales.com
"Cefais fy nal, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Dyma i chi stori gwrtharwr wedi ei ddweud yn dda iawn, gyda chymeriadau ardderchog ac amrywiol. Ac o dan yr ysgafnder, mae sawl haen o ddifrifoldeb i'r nofel hefyd."
- Rhiannon Ifans, Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru