John Elfed yn ddiflewyn-ar-dafod am ddŵr, yr iaith a'r mewnlifiad
Ac yntau'n un o bersonoliaethau mwyaf dadleuol a diflewyn-ar-dafod Cymru, mae John Elfed Jones wedi hen arfer â chreu penawdau cenedlaethol. Beth felly yw gwir gymhellion y gŵr adnabyddus hwn sydd wedi arwain rhai o gyrff a mudiadau mwyaf pwerus y wlad?
Fe gawn ddarganfod mwy am gyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant, Dyfroedd Dyfnion.
Mae CV John Elfed, sy'n enedigol o Faentwrog ond bellach yn byw yn y Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhyfeddol a dweud y lleiaf. Ymhlith ei restr faith o gyn-swyddi mae Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Alwminiwm Môn, Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cadeirydd HTV Cymru a Chadeirydd Dŵr Cymru.
Gyda dros ugain mlynedd o swyddi uchel eu proffil o dan ei felt, mae'n saff dweud nad yw'r gŵr hwn erioed wedi bod ofn dweud ei ddweud. Tra oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith adeg y paratoi ar gyfer Deddf Iaith 1993, câi alwadau ffôn bygythiol i'w gartref gyda'r nos. Cafodd gryn sylw yn dilyn erthygl yng nghylchgrawn Barn unwaith, wedi iddo gymharu effaith y llif o fewnddyfodiaid di-Gymraeg ag effaith clwy'r traed a'r genau, oedd yn anrheithio'r Gymru wledig ar y pryd.