Hunangofiant un o sêr cynnar y rhaglen Fferm Ffactor, Gareth Wyn Jones.
Mae Gareth yn ffarmwr parod ei farn, ac mae'n un o'r cymeriadau amlycaf yn y byd amaethyddol. Mae ei enw'n un amlwg yn y cyfryngau, o ymddangos ar y rhaglen Mountains gyda Griff Rhys i fod yn un o sêr cyfres gyntaf Fferm Ffactor. Mi oedd hefyd ar Snowdonia 1890 a School of Hard Knocks ar Sky a mae hefyd yn cyflwyno rhaglen ar ferlod gwyllt ar 4 Seasons.
Mae'n byw yn Llanfairfechan, yn Faer ac yn ymwneud â phob cymdeithas amaethyddol sy'n mynd, yn arbennig cŵn a merlod mynydd.
Dyma stori ffarmwr parod ei farn sy'n byw ar y carneddau, ac yn hynod boblogaidd yn ei ardal ogystal â'r byd amaethyddol.