Kate Roberts a'r Ystlum, a dirgelion eraill
Sut fyddai Caradog Prichard yn ymdopi â cholli ei gof ar ôl ymddeol? Beth ddigwyddodd i Evan Roberts ar ôl i fwrlwm y Diwygiad ddod i ben? Beth allai fod wedi ysbrydoli Kate Roberts i feddwl am yr iaith Gymraeg fel ystlum mewn cerdd i'r Faner? Mae'r atebion yn y casgliad hwn o straeon gogleisiol a dyfeisgar.