Llwyddodd Kate Bosse-Griffiths i ffoi o'r Almaen i wledydd Prydain yn 1937. Caru, priodi, cychwyn llenydda yng Nghymru a sefydlu Cylcg Cadwgan yn y Rhondda oedd ei hanes ar adeg pan droes y Natsiaid fywyd pobl yr Almaen ac Ewrop yn uffern.
Cafodd ei theulu ei erlid. Ceisiodd rhai fod yn rhan o'r system, roedd eraill yn ymdrechu i fyw er gwaetha'r system, ac eraill yn gwrthwynebu'n hunanaberthol.
Cefndir llawer o'r digwydd yw tref Wittenburg, lle y bu Martin Luther yn taranu i newid trefn yr Eglwys; taranodd hefyd yn erbyn yr Iddewon, a manteisiodd y Natsiaid ar hyn.
Seiliwyd yr hanes ar gannoedd o lythyrau, dogfennau ac adroddiadau'r teulu. Soniant am ymosodiadau Kristallnacht, bywyd o dan y drefn wallgof, manylion gwersylloedd carchar, ffoi i Shanghai, hunanladdiad a lladd.
Mae yma hanes o garu a chasau, gwarchod ac erlid, dyheu a dychryn yn y cyfnod mwyaf dinistriol a welodd Ewrop erioed.
Mae fersiwn clawr caled ar gael hefyd.