Simon Easterby. Caled. Digyfaddawd. Asgellwr ffyrnig. Beasterby i'w alw wrth ei lysenw. Mae ambell wrthwynebwr, a'i anafiadau ei hun, yn dystion ac yn brawf o'i ddull chwarae di-ofn. Simon yw'r asgellwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Iwerddon a bu'n gapten i'r Sgarlets am bum tymor yn olynol.
Ganwyd ef yn Swydd Efrog, i Sais a Gwyddeles ac fe'i addysgwyd yng Ngholeg Ampleforth. Ers ymddeol fel chwaraewr yn 2010, mae'n aelod o dim hyfforddi'r Sgarlets ac yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn y gêm. Dyma hunangofiant onest gan un o'r blaenwyr mwyaf poblogaidd i chwarae yng Nghymru - dyn sydd â digon i'w ddweud am y gem broffesiynol yng Nghymru ac Iwerddon.