"Ma' stori hir tu cefen i'r penderfyniad wnes i i fynd i Loegr i chwarae."
Yn y llyfr hwn cawn ateb i'r cwestiwn pam y bu'n rhaid i Mefin Davies, bachwr tim Cymru a Chymro brwd, chwarae yn Lloegr. Gwelwn sut y cafodd ei drin gan yr Undeb a chan dimau rhanbarthol Cymru cyn iddo symud.
Cawn ganddo ddisgrifiad o'i deimladau wrth i ranbarth y Rhyfelwyr Celtaidd gael ei ddileu. Chwaraeodd y tymor wedyn i Glwb Castell-nedd - yr unig chwaraewr yn nhim Cymru nad oedd yn chwarae i ranbarth yng Nghymru.
Wedi iddo symud i chwarae i Gaerloyw ac i Gaerlyr disgrifia ei tmdrech i ennill ei le yn y ddau dim blaenllaw hyn. Gwelwn hefyd sut y gwnaeth ef, Angharad ei wraig a'i deulu ddygymod a byw yn Lloegr.
Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen - sy'n dweud llawer am Mefin ei hun ac am y gem yn yr oes broffesiynol.