Trebor Edwards yw un o'r tenoriaid Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Prin i unrhyw gantor Cymraeg gael y fath lwyddiant, gyda'i recordiau'n gwerthu degau o filoedd, a chynulleidfaoedd yn tyrru i'w berfformiadau ledled Cymru a thu hwnt.
Enillodd bum disg aur am werthiant ei recordiau ac mae bellach wedi gwerthu dros 200,000 o recordiau a CDs, gyda "Un Dydd ar y Tro" yn torri pob record o ran gwerthiant recordiau Cymraeg.
Ond breuddwyd Trebor erioed oedd cael ffermio Pen y Bryniau. A thrwy dipyn o lwc a llawer o waith caled mi lwyddodd i wireddu'r freuddwyd honno, gan ddod yn un o amaethwyr amlycaf ei fro. Yn 2008 cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru - braint gwbl haeddiannol yn sgil ei ymroddiad yn cynnal gwerthoedd cefn gwlad ym Mro Gwerful.
Yn y gyfrol hon mae Trebor yn rhoi darlun i ni o ddau fywyd - ei deithiau a'i fordeithiau yn canu ym mhedwar ban byd, a'i frwydr barhaus i gynnal baich y fferm. Mae'n rhoi cipolwg ar y newid a fu yn y byd amaeth dros gyfnod o hanner canrif, yn ogystal a'i orchestion yn y byd adloniant; dau fywyd y mae'n dal i'w mwynhau, un dydd ar y tro...