Dull yr hen bregethwyr o ddal sylw eu cynulleidfaoedd fyddai codi tri phen ond, yn y gyfrol ddifyr ac anarferol hon, deil y Parchedig Elwyn Jenkins ein sylw wrth godi tri phen ei fywyd cyfan! Dyna'r pwll: glofa'r Mynydd Mawr, lle treuliodd y bachgen ifanc o ardal Pen-twyn, y Tymbl, ddyddiau gwaith cynnar yng nghwmni digymar y glowyr a chymdeithas glòs Cwm Gwendraeth. Pêl wedyn – y bêl hirgron, wrth gwrs; yn ei oriau hamdden, disgleiriodd Elwyn ar y cae rygbi i rai o dimau mwyaf Cymru: yng nghrys Sgarlad Llanelli; gyda chlwb rygbi Abertawe, a hyd yn oed yn y prawf terfynol dros Gymru ar Barc yr Arfau. Ac yna'r pulpud; ers blynyddoedd lawer bellach, bu Elwyn Jenkins yn weinidog yr efengyl, gan fugeilio pobl Dduw mewn sawl rhan o Gymru; diolcha bod 'ei linynnau wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd' – Brynaman a Chwmllynfell, Aberystwyth ac ardal Llanbed. Glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth: mae'r nodweddion hynny a ddaeth mor symbolaidd o dde Cymru i'w cael yn naturiol a gwirioneddol ym mywyd Elwyn Jenkins. Ac er mai hunangofiant un dyn sydd yma, mae'n cwmpasu ffordd o fyw cymdeithas gyfan. Bydd holl elw'r llyfr yn mynd tuag at waith Cymorth Cristnogol..