"Nid rhywbeth sy'n digwydd yn ystod cwsg yn unig yw breuddwyd. Mae'n bosibl i gael breuddwyd tra'ch bod ar ddi-hun. Fe ddisgyn wedyn ar y sawl sy'n ei chael i weithio arni a'i gwireddu."
Hunangofiant y cymeriad unigryw Goronwy Evans, sydd wedi bod yn weinidog am hanner canrif, ac sy'n un o gymeriadau blaenllaw ardal Llanbedr Pont Steffan.
Mae Goronwy wedi arwain a gwireddu sawl breuddwyd, gan gynnwys codi dros filiwn o bunnoedd tuag at Plant Mewn Angen a sefydlu lyfrau y Smotyn Du yn y dref.
Yn un o gymeriadau amlycaf Ceredigion, bu'n weinidog gyda'r Undodiaid a chyfrannu'n helaeth i fywyd diwylliannol yr ardal. Mae'n briod â Beti ac mae ganddyn nhw ddau fab, pedwar ŵyr ac un wyres. Mae'n awdur nifer o lyfrau eraill, gan gynnwys "Ar Grwydir", "Ar Grwydir Eto" a "Hiwmor Pregethwr".
Yn storiwr dawnus, mae'n galw sawl hanesyn a chymeriad i gof gyda'r gobaith y bydd yn procio'r cof ynoch chithau hefyd.