Rheswm a Rhyddid yw'r wythfed gyfrol yn y gyfres "Astudiaethau Athronyddol", cyfres sydd wedi apelio nid yn unig at athronwyr ond at unrhyw un sydd â diddordeb mewn trafod syniadau.
Mewn oes lle mae gwleidyddiaeth boblyddol ar gynnydd, ym Mhrydain, Ewrop ac America, mae gwir angen treiddio'n ddyfnach na'r sloganau arwynebol sy'n nodweddu cymaint o'r disgwrs gwleidyddol cyfoes. Yn y gyfrol hon, ceir trafodaeth ar themâu gwleidyddol a chymdeithasol o safbwynt nifer o athronwyr.
Yn ogystal â thrafod syniadau athronwyr fel Kant, Hegel a Marx, meddylwyr a osododd fframwaith y drafodaeth fodern ar wleidyddiaeth, ceir trafodaeth ar feddylwyr cyfoes fel Fukuyama, Rawls, Adorno a Foucault. Mae'r pynciau sy'n cael sylw yn cynnwys hunaniaeth, cenedlaetholdeb a heddwch byd eang.
Mae'r gyfrol yn cynnwys y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o un o ysgrifau pwysicaf Immanuel Kant – allwedd i syniadaeth Oes yr Ymoleuad, lle mae'n holi pwy mewn gwirionedd sydd yn oleuedig a beth mewn gwirionedd yw goleuedigaeth.
Cyflwynir y gyfrol gan aelodau Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru i'r Athro Emeritws Howard Williams fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i gyfraniad sylweddol i athroniaeth wleidyddol ar raddfa ryngwladol ac i athronyddu yn Gymraeg yn arbennig.