Anhwylder yr ymennydd yw dementia,
yn nofio mewn môr o emosiwn
Ofn a gorbryder. Cariad a thosturi. Tristwch a llawenydd. Gwadu ac anghrediniaeth. Blinder a diffyg amynedd. Hwyl a chwerthin. Emosiynau'r rhai sydd â dementia, emosiynau'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.
Pan fydd dementia'n taro teulu, dyna gychwyn ar daith emosiynol. Pwy a ŵyr i ble?
YNA DIGWYDDODD RHYWBETH:
Stori am Ddementia Cyffredin
Awn ar y daith emosiynol honno. Mam, Dad a dau blentyn yn eu hoed a'u hamser. Ergyd drom dementia ar deulu. Mam a Dad ill dau'n ildio iddo.
Mathau gwahanol o ddementia. Effeithiau gwahanol.
Y ferch, Christine, sy'n adrodd y stori, wrth iddi orfod bod yn oedolyn
cyfrifol y teulu. Pawb yn mynd drwyddi rywsut gan wadu bod dim byd o'i le,
nes bod 'rhywbeth yn digwydd' un diwrnod: cyfres o argyfyngau sy'n ei
gwneud hi'n rhy amlwg o lawer fod y fam a'r tad yn colli'u pwyll.
Cawn glywed sut ddaw Mam a Dad yn Mary a Fred, cwpl sy'n dod at ddiwedd stori garu hir. Sut mae teimladau'n goroesi wrth i feddyliau ddiffygio. Sut mae Chris yn dod yn gyfryngwr i helpu Mary a Fred i gynnal eu priodas. Sut all stori garu barhau hyd yn oed mewn uned dementia cartref preswyl. Tan ddiwrnod dathlu pen-blwydd priodas blatinwm Mary a Fred, hyd yn oed.
Stori gynnes, agos atoch, onest a hynod ddynol: yn portreadu dementia fel cyfnod ym mywyd rhai â dementia a'u gofalwyr yn hytrach na thrychineb. Chwerthin yn ogystal â chrio wrth i'r clefyd afael bob yn dipyn.
Mae'r 'Golygfeydd o lawenydd a thristwch', sef deg drama fer iawn,
yn darlunio sut all emosiynau ddod i'r wyneb wrth i ddementia ddilyn ei hynt.
Mae'r bennod 'Dysgu gan ddementia: colledion (ac ambell fudd)'
yn sôn yn fanwl am ddementia o safbwynt lleygwraig.