"Roedd byw y freuddwyd wrth ddilyn ymgyrch arwrol Cymru yn Ewro 2016 yn waith sychedig."
Wrth i Gymru fach, ei hiaith a'i chefnogwyr wneud argraff ar gyfandir cyfan, gadawodd Ffrainc ei hoel (yn llythrennol) ar Dewi Prysor. Yn y cofnod hwn ceir y rhan fwyaf o'r hyn mae'n gallu'i gofio: o ewfforia ac emosiwn y gemau eu hunain i'r profiadau bythgofiadwy – y digri a'r difrifol, y gwallgo, swynol a'r swreal.
Bu'r 33 diwrnod a 6,000 o filltiroedd yn gymaint mwy na stori bêl-droed. Wrth i hanes, arwyr a chwedlau gael eu creu, llwyddodd Prysor i gael ei gloi mewn bar yn ystod "bombscare" yn Toulouse, ei fwyta'n fyw gan chwain ffyrnig yn Bordeaux, a'i hudo gan ffrainc a'i phobol, ei bagets, londrets a "pharmacias" – y llefydd cyfrin hynny lle mae gwellhad i hangofyrs yn cael ei greu...