Adolygiadau
Casgliad o streaon angerddol. Mae Caryl yn adnabod y cymeriadau gwledig sy'n llenwi'r tudalennau mor drylwyr nes ein bod yn sylweddoli'n sydyn mai awdur sy'n eu cyflwyno i ni pan ddown ar draws ambell ymadrodd syfrdanol, a disgrifiadau cynnil sy'n dwyn ein gwynt. Darllenais y gyfrol gyfan mewn un min nos, ond byddaf yn treulio gweddill fy oes yn ei chwmni.
- Bethan Mair
"Mae Cymry, y bobl, yn ganolog i Y Gwreiddyn - a Chymru'r wlad o ran hynny; neu o leiaf y filltir sgwar ddychmygol honno ym mherfeddion Ceredigion a ddarlunnir mor graff gan Caryl Lewis. Er fod pob un o'r un ar ddeg stori yn annibynnol, mae rhyw lun ar undod i'r gyfrol hefyd. Mae'r ymdeimlad o hiraeth, siom, a cholledion bywyd i'w deimlo'n gryf drwyddi draw, ond byth mewn modd sentimental. "
- Aled Islwyn, Cylchgrawn Barn
Mae blas y pridd yn drwm yn y gyfrol hon, weithiau'n felys ond gan amlaf yn chwerw. Dawn anhygoel Caryl Lewis yw cyfleu lluniau bach symudol o'r gorffennol a dod â'r cyfan yn fyw eto. Dyma drysor o gyfrol ac olynydd teilwng i Storiau'r Tir D. J. Williams.
- Sarah Down-Roberts, Gwales
Cydlynol ac argyhoeddiadol yw'r thema briddlyd waelodol. Gwreiddir y cymeriadau, fel eu ffaeleddau, ym mhridd eu cymuned, ac fel y gwreiddyn sy'n cyraedd ei lawn dwf erbyn diwedd y gyfrol, maent yn prifio yn eu cyfiawnder amherffaith. Gwelwn gymundod edaffig pobl a'u bro, a'r pridd yn gyfrwng eu hymwneud a'i gilydd wrth iddo lywio a siapio eu bywydau, yn gam ac yn gymwys. Mae rhywbeth arbennig o Gymreig am y sylw a rhoi i fro fel is-haen lythrennol cymdeithas.
- Morgan Owen, O'r Pedwar Gwynt
"Llyfr wych gan Caryl Lewis. Casgliad o straeon angerddol yn ymweld â natur,perthynas dyn â'i gyd-ddyn,henaint,cariad a cholled sydd yma."
- Kayley Sydenham, Trydar
Mwynheais y gyfrol yn arw, ac mae sawl stori wedi canu'n hir iawn yn y co'. Mae'n sicr yn werth ei darllen er mwyn cael cip, drwy gyfrwng sgwennu crefftus, ar berthnasau cyfrin sydd fel gwreiddiau arbennig, yn gallu clymu unigolion ynghyd yng nghanol drysi o wreiddiau gwyllt.
- Y Stamp
A collection of eleven short stories all set in rural Wales. Close-knit rooted communities lend themselves to traduitional narrative techinques - characters and plots can develop naturally and chohere into a unified whole, providing a long perspective with implications beyond their immediate setting.
- Helle Michelsen, Planet magazine