Dewi Pws: cerddor, digrifwr, seren deledu. Ond yn y gyfrol hon mae hefyd ym amlygu ei ddawn fel athronydd aruchel a bardd Saesneg o bwys. Gyda chlasuron fel "Give us a Rest" a "Turning English", bydd Pws yn sefydlu ei hun ymhlith y mawrion, yn ogystal â chael ei glofori ar Radio Cymru.
Cewch hefyd yn y gyfrol storiau penigamp fel "Mochedd", "Rhwbio" a "Tomatos", a fydd yn cadarnhau ei le fel "brenin ein llên".
Bu'n frenin y byd roc a rôl am ddegawdau, ac yn y gyfrol mae alawon a geiriau clasuron fel "Rosi", "Nwy yn y Nen" a "Lleucu Llwyd". Ac am y tro cyntaf cyhoeddir caneuon fel "Cân Merêd", "Castell Aberteifi" ac "Os".
Ynghanol y jôcs a'r chwerthin mae 'na gerddi i blant ac ambell gerdd ddwys, fel yr un i Tich Gwilym, sy'n cadarnhau ei ddawn fel sgwennwr doniol a difrifol. Mae Pws yn gallu gwneud popeth, bron.