Dyma stori un o gymeriadau enwocaf Cymru erioed. Bu'n ymweld a gorsaf ofod ryngwladol, bu'n destun caneuon gan Ray Gravell a'r Super Furry Animals a bu'n rhan o un o ymgyrchoedd marchnata mwyaf Cymru... Ydi, mae stori Mistar Urdd yn un rhyfeddol.
Ond dyma hefyd hunangofiant y dyfeisiwr ac un o ddynion amlyca'r byd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru, Wynne Melville Jones.
Mae'n olrhain ei gefndir yn Nhregaron, a dylanwad yr ardal a'r Urdd ar ei fywyd tan iddo ffeindio'i swydd ddelfrydol fel Swyddog Marchnata'r Urdd ar ddechrau'r 70au. Bu yntau a Mistar Urdd yn allweddol yn nhwf y mudiad wedi rhwyg yr Arwisgo yn 1969, gan ddatblygu'r Urdd i fod yn un o fudiadau ieuenctid mwyaf llwyddiannus Ewrop.
Cafodd Wyn Mel hefyd lwyddiant wrth sefydlu'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf yng Nghymru, StrataMatrix, yn ogystal a chyd-sefydlu Golwg, ac mae'r mentrau hyn yn gwneud eu marc, fel Mistar Urdd ei hun.