Nid gormodiaith yw honni na chafwyd erioed flodeugerdd mor gynhwysfawr o farddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif â'r flodeugerdd hon. Ceir ynddi 550 o gerddi. Gwnaethpwyd ymchwil drwyadl gan y golygyddion wrth ei pharatoi. Darllenwyd, heb ormodiaith eto, rai cannoedd o gyfrolau o farddoniaeth, pob llyfr o farddoniaeth a gyhoeddwyd yn ystod y ganrif i bob pwrpas. Yn ogystal, darllenwyd ein holl gylchgronau llenyddol, rhag ofn fod ambell gerdd deilwng yn llechu ynddynt, a daethpwyd o hyd i rai. Newydd-deb arall ynddi yw'r 114 o dudalennau o nodiadau a geir ar y cerddi. Bydd y nodiadau hyn yn gaffaeliad amhrisiadwy. Eu bwriad yw cynorthwyo'r darllenydd i adnabod islais, adlais a chyfeiriadaeth, i wybod am gefndir hanesyddol ambell gerdd, hynny yw, cynorthwyo'r darllenydd i ddeall y cerddi yn llawn, ehangu amgyffrediad y darllenydd.
Nid oes yma ochri ag un garfan yn unig. Rhoddwyd pwyslais ar werth y cerddi fel cerddi. Gellir dweud ei bod fel blodeugerdd yn cynrychioli'n deg y gwahanol draddodiadau, tueddiadau a symudiadau a gaed ac a geir ym marddoniaeth y ganrif. Y mae'r bardd gwlad yma ar ei orau, ochr yn ochr â'r modernydd, a'r englynwr ochr yn ochr â'r bardd vers libre. Fe alwyd Oes Aur y Cywyddwyr yn ganrif fawr barddoniaeth Gymraeg. Ond o safbwynt amrywiaeth, ehangder, amlochredd a grym, onid yr Ugeinfed Ganrif yw'r wir ganrif fawr yn hanes ein barddoniaeth ni?