Er mai "towni" oedd Geoff Charles, cai ei ddenu gan fywyd cefn gwlad, a bu'n cofnodi ei hynt a'i dranc am hanner canrif a mwy. Teithiai gefn gwlad Cymru benbaladr gyda gohebwyr Y Cymro yn darlunio'i phobl, ei thraddodiadau, ei dathlu a'i dioddef.
Mae yn y gyfrol hon gant a mwy o'i ffotograffau eiconig, o Selina y feudwyes o Fynydd Hiraethog i fwd y Sioeau Brenhinol teithiol, o'r ceffylau gwedd i'r Myxomatosis. Mae yma ddarlun byw o'r "Hen Ffordd Gymreig o Fyw", ond mae hefyd yn gofnod o ddiwedd cyfnod - a dyna sy'n gwneud y delweddau yma mor bwerus a thrist.
Geoff Charles a'r Gymru Wledig: Pedwarawd y Buarth, Llandderfel;
Bwydo'r Rhyfel: Menyn y Sioe, Sioe Frenhinol Cymru Caernarfon;
"Cyfrinach Llwyddiant - Calch", Llanidloes, Sir Drefaldwyn;
Merched y Tir, Trallwng;
Cario Yd, Llanfyllin;
Tatws Maldwyn, Llwydiarth;
Cyfoeth y Gwrychoedd, plant ysgol Trewern ger y Trallwng;
Gwaith a Chrefft: Cwrwglwr, Llechryd;
Saer Olwynion, Bodffordd, Ynys Môn;
Saer Cribiniau, Llanymawddwy, Meirionnydd;
Melinydd, Llanddeusant, Ynys Môn;
Töwr y Mason's Arms yng Nghydweli;
Teiliwr Llyn ac Eifionydd, Mr W M Parry, Fourcrosses;
Plygwr Gwrychoedd, Brynceunant;
Gof Aberdaron;
Gofaint Llanrug ger Caernarfon;
Casglu Cocos ar draeth Llansaint ger Cydweli;
Cewyllwr o Borth Amlwch, Môn;
Williams y Tryc, Cynwyd ger Corwen;
Ffair a Sioe: Mwd y Sioe Frenhinol, Machynlleth;
Sioe Mynytho;
Mart Croesoswallt;
Ffair y Bala;
Pencampwyr Cwn Defaid, o Bontllyfni;
Ymryson Aredig ym Mhen Llyn;
Sioe Hen Beiriannau yng nghwyl Capel Curig;
Deuawd Sioe Meirion, y brodor o Lundain;
Sioe Nefyn;
Sioe Gyntaf Llanelwedd;
Siopau a Gwasanaethau: Cau'r Siop yn Nanhoron, Llyn;
Diffodd y Trydan yn Llanfachreth ger Dolgellau;
Gwylio'r Bocs a Chario Dwr yn Rhos-y-bol, Ynys Môn;
Postmon Ceffyl o Dregaron;
Sioni Winwns ym Mhorthmadog;
Goroesi: Protest Llyn y Fan;
Brwydr Ysgol Bryncroes, Llyn;
Rali Ysgol Bryncroes;
Nant Gwrtheyrn;
Tai Llannerch-y-medd;
Bywyd i'r Anialwch, cynllun Trydan Dwr Rheidiol;
Pobl Olaf y Cwm, Cwm Blaenlliw rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn;
Tryweryn;
Y Garnedd Lwyd, Tryweryn;
Eira Mawr y Ganrif;
Rhaeadr yn y Llan, Llanrheadr-ym-mochnant;
Syched yng Nghanol y Dwr, Enlli;
Marw 'Crwtyn Salem', Cwm Nantcol, Meirionnydd;
Cadw Dyletswydd, Llannor ym Mhen Llyn;
Diolchgarwch Cross Foxes, Carn Dolbenmaen;
Cymeriadau: Bugeiles o Dal-y-bont, Meirionydd;
Selina o Fynydd Hiraethog ger Nantglyn;
Bardd y Lorri Laeth, De Arfon;
Y Tramp ar fryn uwchben Dolgellau;
Elin Hughes, 102 oed o Riwlas ger Bangor;
Y Gwr o Baradwys, Llangristiolus, Ynys Môn;
Ann o Lyn;
Ysgubwr Dail yng Nganllwyd, Sir Meirionnydd;
Hen Arferion: Calan Hen, Llandysul;
Eiddo i Mari, Sarnau ym Meirionnydd;
Cyflaith yn ardal y Parc ger y Bala;
Canhwyllau Brwyn yn Abergeirw;
Byd Amaeth: Merched y Cynhaeaf yn Aberllefenni ger Machynlleth;
Heuwr ar fferm yn Chwilog;
Ceffylau Gwedd o Lanllyfni;
Llofft Stabal ger Boduan yn Llyn;
Diwrnod Cneifio ar fferm Nantymaen, Tregaron;
Cneifio Dyffryn Ceiriog;
Diwrnod Dyrnu, Llwyndyrys ger Pwllheli;
Saethwyr ym Môn;
Clwy'r Cwningod;
Hela heb Ladd ym Meirionnydd;
Twm y Ceffyl 'Gwyrdd', Carn Fadryn ym Mhen Llyn;
Mari'r Ferlen o Fodwrog, Ynys Môn;
Ysgubau Yd ym Modwrog, Ynys Môn;
Arallgyfeirio, Sir Feirionnydd;
Llefydd: Nantllwyd, Soar-y-Mynydd;
Rhydymain;
Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn;
Tyn-y-braich, Dinas Mawddwy;
Llyn y Gadair, Rhyd-ddu;