Y Cyfeiriadur Cymreig
Corau
Côr Meibion Caernarfon
Cyfeiriad:
Bod Afon
Ffordd y Gogledd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BE
E-bost:
Gwefan:
http://www.cormeibioncaernarfon.org
Prif Gyswllt:
Ysg: Iolo Thomas
Gwybodaeth Ychwanegol:
Sefydlwyd y Côr yn 1967 gan gwmni bychan o weithwyr yn ffatri Ferodo ar ffin tref Caernarfon. Yn drist iawn daeth y cysylltiad gyda Ferodo i ben yn 2007 pan geuodd y ffatri ei giatiau am y tro olaf. Heddiw mae gan y Côr 53 aelod ac yn tynnu ei aelodaeth o dref Caernarfon a chefn gwlad eang o amgylch. Mae'r Côr yn cynnwys ystod eang o alwedigaethau yn cynnwys peirianwyr, heddweision, cyfreithwyr, swyddogion llywodraeth leol, ffermwyr, athrawon a chrefftwyr, gyda nifer bellach wedi ymddeol, sydd oll yn mwynhau cystadlu a pherfformio cyngherddau.
Ymunodd Mrs Delyth Humphreys B.Mus, fel arweinyddes newydd y Côr, yn 2008 ac mae ei doniau cyfoethog hi ynghyd â'r gyfeilyddes, Mrs Mona Meirion Richards B.A., L.R.A.M. wedi dihuno brwdfrydedd o'r newydd o fewn y Côr. Mae'r Côr yn ogystal yn ffodus iawn i gael Bryn Terfel, y bariton byd enwog o Bant Glas, yn Noddwr Anrhydeddus.
Gall Côr Meibion Caernarfon hawlio'r llwyddiant o ennill dair gwaith yn olynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1994 - 1996) a llwyddiant ar chwe achlysur arall, y diweddaraf yn 2003. Mae hefyd wedi ennill nifer o Wyl Corawl eraill dros Gymru ac yn yr Iwerddon. Mae'r Côr wedi bod yn genhadwr gwych i gerddoriaeth Cymru mewn gwledydd yn cynnwys America, Canada, yr Almaen, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Ffrainc, a Malta.
Mae'r Côr wedi mwynhau nifer o ymweliadau tramor llwyddiannus ac mae gofyn parhaol am ei ymddangosiad i gynnal cyngherddau trwy Brydain Fawr, ac aml ymddangosiadau ar y teledu.