Eddie Jones
Brodor o Fethel, Arfon oedd Eddie Jones. Bu'n athro yn Ysgol Gynradd Penygroes, Arfon ac yn Ysgol Uwchradd Machynlleth. Yna aeth yn ddirprwy Brifathro ar Ysgol Gynradd Park Avenue, Aberystwyth cyn cael ei benodi'n Brifathro Ysgol Rhydypennau. Bu yno nes ei ymddeoliad yn 1985. Bu Eddie Jones yn crwydro Cymru yn y 50au a 60au yn cynnal twmpathau a dosbarthiadau dawns. Bu farw Eddie Jones yn 2016.
http://www.dawnsio.com/2016/11/25/teyrnged-eddie-jones-gan-rhodri-jones/