Dewi Morris Jones
Yn wreiddiol o Hendy-gwyn ar Daf, dysgodd Dewi Morris Jones Ffrangeg a Llydaweg tra'n byw ym Mrest am 9 mlynedd. Roedd yn gweithio fel tiwtor achlysurol Llydaweg i Brifysgol Aberystwyth, ac yn olygydd a chyn-Bennaeth Adran Olygyddol Cyngor Llyfrau Cymru. Roedd yn un o'r tim a greodd fersiwn Cymraeg o'r gem Scrabble ac roedd hefyd yn weithgar iawn gyda Phlaid Cymru. Bu farw Dewi Morris Jones yn 2015.
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/183716-dewi-morris-jones-wedi-marw