Sue Morris
Mae Sue Morris yn seicolegydd clinigol sydd wedi'i hyfforddi mewn therapi ymddygiad gwybyddol ac yn gyfarwyddwr gwasanaethau galar yn Sefydliad Canser Dana-Farber, Boston, yr Unol Daleithiau. Cyn hynny, bu'n gweithio ym maes iechyd meddwl cymunedol ac fel ymarferydd preifat yn Sydney, Awstralia. Hi yw awdur Goresgyn Galar ac mae'n gyd-awdur pedwar llyfr hunangymorth am berthnasoedd a bod yn fam.