Lansio Y Meini Llafar gan Lyn Ebenezer
Dyma gyfrol o atgofion un o newyddiadurwyr ac awduron amlycaf Cymru, Lyn Ebenezer.
Aeth dros chwarter canrif heibio ers i Lyn ysgrifennu ei hunangofiant Cae Marged, ond mae’r gyfrol hon yn llawn atgofion am gymeriadau ei fro, llawer ohonyn nhw wedi cerfio’u henwau ar y bont yn Bontrhydfendigaid, lle mae’n byw. Mae’n gyfrol grefftus sy’n llawn storïau difyr am gymeriadau gogledd Ceredigion, wrth i’r awdur hiraethu am y dyddiau a fu...
“Yma ym Mhontrhydfendigaid mae’r afon yn dal i lifo. Ac mae meini’r hen bont yn dal i lefaru, er dim ond i’r rhai sy’n deall eu hiaith ac sy’n barod i wrando. A phrinhau mae’r rheiny.”