Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Yr Osian Roberts arall...

Nid yr Osian Roberts fu’n hyfforddi tîm pêl-droed Cymru yw’r unig un talentog i ddod o Ynys Môn. Dyna hefyd enw artist ifanc addawol o Lannerch-y-medd sydd wedi arlunio un o lyfrau dysgu Cymraeg mwyaf poblogaidd Y Lolfa, sef Welcome to Welsh. Ac mae hefyd yn ddilynwr brwd i dîm pêl-droed Cymru!

Ymddangosodd Welcome to Welsh gan Heini Gruffudd gyntaf yn 1984 gan werthu 75,000 o gopïau ond roedd angen ailwneud y ffotograffau gwreiddiol. Trwy hap fe welodd Y Lolfa enghreifftiau o waith Osian ar y we a phenderfynu rhoi comisiwn iddo greu cartwnau newydd yn ei arddull unigryw ei hun gan ailddylunio’r llyfr drwyddi draw.

“Mae cael cyfle fel hyn yn grêt i artist ifanc, syth o’r coleg a dwi’n arbennig o hapus bod y llunau am helpu pobol i ddysgu’r iaith Gymraeg. Rwy’n gweithio ar hyn o bryd gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf fel swyddog addysg ac yn falch o bob cyfle i gyfuno fy niddodeb mewn celf a fy nghred yn yr iaith.”

Ar ôl gorffen yn Ysgol Uwchradd Bodedern, gwnaeth Osian gwrs sylfaen celf ym Mharc Menai, Bangor; yna treuliodd dair blynedd ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion gan orffen ei addysg celf yn astudio MA mewn animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.

“Rwy’n mwynhau cefnogi tîm Cymru, adra ac i ffwrdd, gwylio ffilmiau, darllen a gwrando i gerddoriaeth. Fy mreuddwyd yw magu mwy o hyder i sgrifennu a chreu fy llyfr fy hun. Dwi’n credu bysa’r broses o sgwennu ac arlunio yn hyfryd! Baswn i hefyd yn hoffi cael y cyfle i greu cyfres o ffilmiau byrion am hanes Cymru.”

Tra bod Osian Roberts yr hyfforddwr pêl-droed wedi diflannu i Como yn yr Eidal, gallwch ddisgwyl gweld mwy o sôn am Osian yr artist yma yng Nghymru. Gellir cysylltu ag Osian ar [email protected].