Y Lolfa yn lansio calendr adfent
'Rydym yn falch iawn o lansio ein hymgyrch Nadoligaidd fydd yn annog pobl i roi llyfrau yn anrhegion ac i ddarllen dros y Nadolig ac ymlaen i'r flwyddyn newydd' eglurodd Fflur Arwel, Pennaeth Marchnata Y Lolfa.
'Gall darllen llyfrau ddod â phleser a dihangfa i unrhyw un' meddai Fflur, 'Gallent fod yn ffordd o ddysgu a deall am y byd, yn gyfle i ymlacio, i gipio dychymyg - heb sôn am y cyfraniad mae llyfrau yn ei wneud i ddiwylliant bywiog ein cenedl'
Daw'r ymgyrch yn sgil sefydlu blog darllen 'Y Silff Lyfrau' yn gynharach yn yr hydref.
Bydd y wasg hefyd yn nodi carreg filltir arbennig flwyddyn nesaf.
'Bydd 2017 yn flwyddyn fawr i'r Lolfa gyda'r wasg yn dathlu hanner canmlynedd ers ei sefydlu' ychwanegodd Fflur, 'Gwyliwch am gyhoeddiadau o barti mawr a nifer o ddigwyddiadau eraill yn y flwyddyn newydd!'
'Yn y cyfamser hoffwn ni ddiolch yn fawr i'n cwsmeriaid ac i bawb sydd wedi cefnogi'r wasg eleni a dros y blynyddoedd. Ymlaen a ni i'r 50!' ychwanegodd.