Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Swydd Newydd Gyffrous!

Mae’r Lolfa yn chwilio am Olygydd Llyfrau i olygu yn greadigol rhai o’n llyfrau Cymraeg i oedolion. Y prif orchwyl fydd llywio nifer penodol o lyfrau drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol yng nghalon un o brif weisg Cymru. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu yn hybrid.