Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

"Panorama dinesig" Luned Aaron a ddaeth yn agos at y frig yn y Fedal Ryddiaith

Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o storïau dinesig gan yr awdur a'r arlunydd Luned Aaron. Daeth Porth (Y Lolfa) yn agos at ennill cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol eleni a disgrifwyd y casgliad yn “banorama dinesig o bobl yn gwau drwy’i gilydd, pob un â’i stori,” gan Lleucu Roberts.

Meddai Luned Aaron:

“Dyma oedd y tro cyntaf i mi gystadlu am y Fedal Ryddiaith ac roedd sylwadau’r beirniaid yn sicr yn hwb gan mai dyma fy nghyfrol gyntaf i oedolion. Fedra’i ddim meddwl am ddull saffach o gyhoeddi nofel gyntaf a dweud y gwir.”

Disgrifiwyd yn “grefftwr o storïwr, meistr yr un digwyddiad, y ddelwedd, yr awgrym o symbolaeth a’r dweud cynnil,” gan Ion Thomas ac yn “awdur rhagorol a sylwebydd cymdeithasol craff,” gan Menna Baines.

Mae profiadau Luned Aaron o’r ddinas wedi dylanwadu ar y straeon, meddai, “Mi fues i’n gwneud gwaith elusennol am gyfnod lle ro’n i’n ymweld â gwragedd a’u plant oedd yn ymgeiswyr lloches. Roedd dod i’w hadnabod nhw a chlywed eu profiadau - yn aml yn heriol ac yn ingol - yn wir agoriad llygad. Dechreuodd y gyfrol gyda chymeriad sy’n ymgeisydd lloches ac wrth ysgrifennu’r darnau sydd o’i safbwynt hi, ro’n i’n awyddus i greu cymeriad crwn oedd â’i stori a’i thaith ei hun.”

“Dw’i wrth fy modd yn darllen cyfrolau sy’n cynnwys cysylltiadau cynnil rhwng straeon a chymeriadau gwahanol ac ro’n i awydd ysgrifennu cyfrol debyg fy hun. Gan fy mod i wedi byw yng Nghaerdydd ers dros bymtheg mlynedd erbyn hyn, ro’n i’n meddwl y byddai’n ddifyr ceisio cyfleu ychydig o’r amrywiaeth sydd mewn dinas yn y gyfrol, yn ogystal â’r elfennau diddorol sy’n gallu bodoli wrth i garfanau gwahanol ein cymdeithas gydblethu.”

Ymysg y straeon eraill mae gwraig sy’n stryffaglio gyda heriau’r cyfryngau cymdeithasol, dyn sy’n troi at steilydd ffasiwn mewn ymgais i newid ei fywyd, a mam brysur sydd mewn penbleth wrth iddi geisio dewis lliw ei drws ffrynt.