Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel newydd Llwyd Owen yn "gampwaith"

Disgrifir y nofel olaf yn nhrioleg Llwyd Owen fel “campwaith” gan Manon Steffan Ros. Dywedodd yr awdur “darllenais drwy fy mysedd. O’n i methu rhoi hi lawr”. Mae Helfa (Y Lolfa), yn nofel ddirgelwch garlamus sy’n dod â stori’r Ditectif Sally Morris i ben mewn ffordd ddramatig iawn.

Gan ddychwelyd am y seithfed tro i dref ddychmygol Gerddi Hwyan, mae Helfa yn dilyn hanes Ditectif Sarjant Sally Morris a’i phartner gwaith, Tej Williams, wrth iddynt fynd ar drywydd lladron cŵn sydd wedi bod yn codi cywilydd ar Heddlu Gerddi Hwyan ers misoedd lawer. Mae bywyd cartref Sally yn ddedwydd, tra bod Tej wedi cwympo mewn cariad â gyrrwr tacsi lleol o’r enw Hels. Ond, yn ddiarwybod i bawb, mae bwystfil yn llech-hela’r ardal, gyda’i frîd ar anhrefn dialgar… ac mae Sally a Hels ar ei gach-restr.

Meddai Llwyd Owen:

“Hon yw’r nofel olaf yn y drioleg a gyda stori Sally Morris yn dirwyn i ben, rwy’n mawr obeithio bod fy narllenwyr wedi mwynhau’r daith gymaint â fi. Fy nod gyda’r gyfres hon oedd peidio ag ailadrodd fy hun, gan gyflwyno tair nofel drosedd oedd yn rhannu’r un DNA ond oedd hefyd yn hollol wahanol i’w gilydd.”

Dyma ei drydedd nofel ar ddeg yn y Gymraeg. Enillodd yr awdur Llyfr y Flwyddyn gyda Ffydd, Gobaith, Cariad yn 2007 a chyrraedd y rhestr fer gyda’i nofel fer Iaith y Nefoedd, yn 2020, a oedd yn brosiect ar y cyd gyda band Yr Ods.

“Cefais fy herio i ysgrifennu cymeriadau benywaidd cryfach, a gyda Sally a Hels rwy’n gobeithio’n arw fy mod i wedi llwyddo i wneud hynny.”

“Rwy’n bwriadu dychwelyd at Gerddi Hwyan unwaith eto gyda fy nofel nesaf, ond nid nofel ‘dditectif’ fydd hi. Yn hytrach, caper am deulu sy’n berchen ar fwyty a’r pethau mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud er mwyn goroesi.”