Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel gyntaf "hudolus" Daf James yn cynnig traddodiad Nadoligaidd newydd i blant

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gyntaf y dramodydd, y cyfansoddwr, y sgriptiwr a’r perfformiwr – Daf James. Mae Jac a’r Angel (Y Lolfa) yn stori Nadoligaidd a ddisgrifiwyd gan Non Parry fel nofel “hudolus, cyffrous, doniol a charedig. Mae’r byd angen y stori yma. Rhowch o ar y cwricwlwm AR UNWAITH! ” Pedair pennod ar hugain sydd yn y llyfr hwn – pennod ar gyfer pob noson ym mis Rhagfyr tan Noswyl Nadolig yn debyg i galendr adfent.

Meddai Daf James: “Pan o’n i’n tyfu lan, roedd cynrychiolaeth LHDTC+ yn y Gymraeg yn brin ac yn aml roedd yn gynrychiolaeth negyddol. Am wn i, ’sgwennes i’r nofel i’r Daf bach ecsentrig, cwiar hwnnw o’dd yn caru darllen, perfformio a gwylio’r Dyn Nath Ddwyn y Dolig – mae ’na gwpwl o ‘nods’ bach i ddylanwad honno ar y nofel. Bydde Daf bach wedi dwlu cael darllen llyfr hudolus yn y Gymraeg am fachgen bach sydd ishe chwarae Mair.”

Mae’r nofel yn gwirdroi elfennau traddodiadol y Nadolig i greu antur hollol gyfoes a chynwysiedig wrth i Jac geisio achub y Nadolig gyda chymorth calendr adfent ei fam a llu o ffrindiau lliwgar: Dilys y Foneddiges Eira, Cefin y Camel sy’n hedfan, pensiynwyr sy’n troi’n geirw, teulu o fugeiliaid, y tair brenhines drag ddoeth, Siôn Corn, a’r angel, wrth gwrs.

Meddai Daf James: “Mae Jac yn uno ac yn arwain ei holl ffrindiau i orchfygu teulu cas yr Heroniaid ac achub y Nadolig! Mae’n stori ddoniol, emosiynol a gorfoleddus am fachgen a’i ysbryd anorchfygol, sy’n dysgu sut i ddefnyddio grym ei ddychymyg i oleuo’r tywyllwch.”

Gyda 24 pennod – un ar gyfer bob un o ddiwrnodau’r Adfent – dwi hefyd yn gobeithio bydd y nofel yn cynnig traddodiad newydd i blant Cymru,” meddai Daf James.

Disgrifiwyd fel “nofel hudolus, deimladwy sy’n llawn gobaith” ac yn “anrheg o stori” gan Jon Gower.

Mae Jac a'r Angel yn stori Nadoligaidd ddoniol, annwyl a theimladwy y bydd oedolion a phlant yn ei mwynhau.