Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Myfyrdodau onest, cynnes a real ar groesi sawl trothwy mewn bywyd

Myfyrdodau cynnes awdur wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd ydi cyfrol ffeithiol greadigol newydd yr awdur a’r bardd Iwan Rhys - Trothwy (Y Lolfa).

Disgrifiwyd Trothwy yn “berl o gyfrol” gan Llŷr Gwyn Lewis.

Meddai Iwan Rhys:

“Daeth y gyfrol at ei gilydd wrth i mi fyfyrio ar fy mhrofiadau o ddod o hyd i fy lle. Roedd y tebygrwydd o ddod o hyd i fy lle fel llystad, ac fel ymwelydd cyson â Berlin, wedi fy nharo i ers sawl blwyddyn. Beth yw fy rôl i fan hyn? Sut ydw i’n perthyn? Dros yr un cyfnod, ro’n i wedi mwynhau sawl cyfrol ffeithiol greadigol am brofiadau pobl mewn sefyllfaoedd newydd. Dyma weld y cyfle o fanna i rannu fy mhrofiadau i. Ar ôl dechrau ysgrifennu, fe wnaeth fy nharo bod lle i wau drwy hynny fy mhrofiad o fynychu’r dafarn leol, fel rhywun o’r tu fas. Dal i ddod o hyd i’n lle ydyn ni i gyd, on’d ife?”

Mae Trothwy yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.

“Roeddwn am ysgrifennu rhywbeth gwahanol am brofiadau real. Does gen i ddim cof o ddarllen unrhyw waith arall yn y Gymraeg am fod yn llystad er enghraifft. Wrth edrych nôl ar fy mherthynas â’r bechgyn a fy ymweliadau â Berlin dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw’n dod i’r cof fel cyfres o ddarluniau. Ac ar ôl sawl degawd o Dalyrna, rwy wedi dysgu mai dangos, nid dweud, sydd orau, er mwyn cyfleu darlun. Sgwrs dros beint, lliw sgarff, gwynt saim chips cartre a chwtsh. Felly rhoi cyfres o ddarluniau at ei gilydd ydw i yn y gyfrol yma. Gobeithio y caiff y darllenwyr fwynhad o gael cip arnyn nhw drwy fy llygaid i,” meddai Iwan Rhys.

Meddai Llŷr Gwyn Lewis fod y gyfrol “yn gofnod tyner a threiddgar o gyfnod o newid mawr ym mywyd yr awdur. Wrth ddathlu’r bendithion bychain a chwerthin ar hynodion bywyd, cawn ein tynnu i mewn i gynhesrwydd y teulu... Drwy’r cyfan mae myfyrdodau ffraeth a gwreiddiol y llystad hwn yn pefrio” a chaiff y nofel ganmoliaeth uchel hefyd gan Menna Baines; “Dyma waith sensitif, myfyriol, dadansoddol a gonest sy’n cynnwys hiwmor tawel. Cefais flas mawr arno.”