Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd

Mae tyfu i fyny a chael pen ffordd yn eich arddegau wedi bod yn heriol erioed. Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr gwybodaeth wreiddiol i ferched 8 i 12 oed – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg – sy’n anelu at ateb rhai o’r cwestiynau bythol sy’n codi yn ystod yr arddegau.

Mae Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis (Y Lolfa) yn meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y corff, gan annog hunanddelwedd bositif, tra hefyd yn arfogi merched gyda gwybodaeth bwysig am yr hyn sy’n digwydd i’w cyrff wrth dyfu fyny.

Meddai’r awdures Sian Eirian Lewis:

Mi ges i’r syniad pan oedd y ferch yn iau a gweld nad oedd llyfr Cymraeg ar gael i ferched ifanc i’w paratoi ar gyfer yr arddegau. Mae dewis gwych ar gael yn Saesneg, ond dyma’r cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn agored a pharatoi merched ifanc fel eu bod nhw’n deall beth sy’n digwydd, neu ar fin digwydd, iddyn nhw. Nid rhywbeth dirgel ydy’r arddegau, ac nid cyfnod i’w ofni ydy o, chwaith. Dw i’n gobeithio bod iaith syml y llyfr, yn ogystal â darluniau hyfryd Celyn Hunt, yn cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd gefnogol a chadarnhaol.”

Mae’r llyfr wedi’i rannu’n 14 pennod, sy’n cynnwys ‘Pam mae fy nghorff yn datblygu?’, ‘Hormonau’, ‘Bronnau’, ‘Y mislif’ a ‘Dathlu fy nghorff’ [rhestr lawn o’r penodau isod]. Cyflwynir yr wybodaeth mewn pytiau byr gydag ambell i baragraff cychwynnol i bob pennod. Mae lluniau lliwgar ac arbennig Celyn Hunt (Celf Celyn) drwyddi draw yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth. Mae hefyd geirfa yng nghefn y llyfr. Mae’r wybodaeth yn y llyfr wedi’i wirio gan Dr Mair Parry, er mwyn sicrhau cywirdeb.

“Dw i’n gobeithio y bydd y llyfr yn rhywbeth y bydd plant a rhieni/gwarchodwyr yn gallu troi ato o dro i dro er mwyn dechrau trafodaethau gartref. Weithiau, mae oedolion yn ei chael hi’n anoddach na phlant i drafod pethau! Dyma obeithio felly y bydd y llyfr yn gymorth i ferched a rhieni/gofalwyr er mwyn paratoi pawb ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.”

“Mae’r profiad o gydweithio efo Celyn a Tanwen i ddylunio’r llyfr wedi bod yn un hyfryd. Dw i’n ddiolchgar i Dr Mair am ei harweiniad hefyd. Gwaith tîm go iawn!” meddai Sian Eirian Lewis.