Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr coginio newydd yn dathlu bwyd ffres o'r ardd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr coginio newydd gan yr arbenigwr bwyd Nerys Howell. Mae Cywain – Ryseitiau o’r Ardd yn llyfr dwyieithog hardd sy’n llawn ryseitiau a lluniau i ddod â dŵr i’r dannedd.

Meddai Nerys Howell sy’n coginio i wylwyr Prynhawn Da ar S4C ers 25 mlynedd, “Rwy’n gogydd sy’n garddio ac yn mwynhau tyfu a chynaeafu ffrwythau a llysiau. Mae’n broses sy’n rhoi boddhad i mi a does dim gwell teimlad na chynaeafu’r bwydydd mwyaf ffres o’r ardd, rhai sy’n llawn blas y tymor.

“Mae’r llyfr ryseitiau hwn yn ddilyniant naturiol i’r gyfrol flaenorol Bwyd Cymru yn ei Dymor (2020), oedd yn canolbwyntio ar fwyta’n lleol ac yn dymhorol. Does dim byd mwy cynaliadwy, mwy lleol a mwy tymhorol na defnyddio’r hyn rydym wedi ei dyfu ein hunain a dyna yw prif neges Cywain, sef casglu’r cynhaeaf.”

Mae Cywain yn cynnwys ryseitiau sy’n defnyddio rhannau o blanhigion sydd fel arfer yn cael eu taflu, fel y Pesto topiau moron. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys tipiau ar sut i ddechrau garddio, sut i gynhaeafu a storio, calendr tymhorol a sut i leihau gwastraff. Rhannir y gyfrol yn bump rhan – Teulu’r Winwns, Dail, Llysiau gwyrdd a phwmpenni, Llysiau’r haf a Ffrwythau gyda chyflwyniad ar ddechrau pob pennod.

Mae Nerys Howell yn berchen ar gwmni bwyd Howel Food Consultancy, ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd, diod a lletygarwch. Mae hi wedi teithio i bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru. Meddai Nerys Howell, “Rwy’n angerddol am y ffaith bod angen i ni edrych ar beth sydd ar ei orau ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Mae blas cynnyrch llawer yn well pan maent yn cael eu mwynhau o fewn y tymor cynhaeaf priodol, ac mae garddio yn dod a’r elfen bositif ychwanegol o fedru cysylltu gyda’r ddaear a natur ac mae’n ymarfer da i’r corff a’r meddwl.”

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau arbennig gan y ffotograffydd Phil Boorman.