Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Llinella sirol. County lines. Hynna sgynnoch chi ia?’ - Nofel sy’n mynd at asgwrn pydredig yr is-fyd cyffuriau

Y mis hwn, cyhoeddir nofel newydd sbon gan awdur sydd wedi ennill ei phlwyf ym myd cyhoeddi yng Nghymru, sef Mared Lewis. Mae Croesi Llinell yn nofel ddirgelwch sy’n llawn cymeriadau cymhleth a chofiadwy, ac yn greiddiol i’r plot, archwilir natur y syniad o le a pherthyn yn wyneb argyfwng teuluol.

Gosodir y microsgop ar Myfi yma – newyddiadurwraig frwd, sydd â gyrfa addawol i’w chadw yn Lerpwl. Mae ei gwreiddiau yn ôl yn Nyffryn Nantlle, ond mae hi yn osgoi mynd adref yn ormodol, ac wedi ymbellhau oddi wrth ei theulu i raddau. Ond, mae un alwad ffôn dyngedfennol yn rhoi gorfodaeth ar Myfi i ddychwelyd adref ar unwaith, ac mae hi’n cael ei sugno’n ôl i fywyd y dyffryn.

Dilynwn Myfi wrth iddi hi geisio ymdopi â dychwelyd i’w chynefin, ailgynnau’r fflam gyda chyn-gariad, a dysgu mwy am ddiflaniad ei chwaer, Elliw. Yn y cyfamser, ac yn annisgwyl, daw cymeriad arall i mewn i’w bywyd, sef Siwsi – cymeriad amlhaenog, sy’n wynebu ei siâr ei hun o broblemau ac yn mynnu siarad amdanyn ‘nhw’, sydd wedi bod yn ei chadw’n gaeth. Ond beth yn union yw’r cysylltiad rhwng Siwsi ac Elliw?

Meddai’r awdur:

‘Mae'r stori yn symud ar dipyn o gyflymder, ac mae hiwmor yn britho'r dweud. Mae Myfi ei hun yn gymeriad sydd â'i chalon yn driw ond sydd yn fwrlwm o wendidau hefyd.’

Dyma nofel sy’n archwilio natur is-fyd rhwydweithiau cyffuriau llinellau sirol (‘county lines’) a’r ffordd y mae cludiant cyffuriau o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig ar gynnydd yng Nghymru. Mae hefyd yn tanlinellu’r perygl sy’n dod o dynnu pobl ifanc, leol i mewn i’w cylch cythreulig, a’u hudo i mewn i’r gwaith o gludo cyffuriau.

Ôl nodyn:

Bu Mared ar gwrs wythnos ar ysgrifennu a strwythuro nofelau trosedd/dirgelwch yn Nhŷ Newydd yn 2019, dan arweiniad yr awdures lwyddiannus Clare Mackintosh, ac elwa’n fawr o’r profiad. Mae hefyd wedi ymgynghori gydag aelod o Heddlu Gogledd Cymru ar y llinellau cyffuriau sy’n lluosogi, er mwyn sicrhau cywirdeb.

Mae Croesi Llinell ar gael rŵan (Y Lolfa, £9.99)