Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

“Llais ffres ac egnïol" - cyfrol gyntaf yr actor Andrew Teilo

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol gyntaf yr actor Andrew Teilo. Mae Pryfed Undydd yn gasgliad o storïau byrion darllenadwy am bobl sydd ar y trothwy ac am gyflwr dynol ar ei fwyaf amrwd a mympwyol.

Mae Andrew Teilo yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm, ac wedi chwarae rhan Hywel Llywelyn ers dros 30 mlynedd. Ers mis Mai 2022, mae’n Gynghorydd Sir dros ward Llangadog ar Gyngor Sir Gâr. Yn Pryfed Undydd daw’r awdur â thafodiaith Sir Gâr ôl i olwg y darllenwr Cymraeg. Meddai Andrew:

“Rwy wedi ysgrifennu’n ddiwyd ar hyd y blynyddoedd, ond wastad at fy nibenion fy hunan. Llenydda er mwyn y pleser o lenydda yn unig. Fe wnaeth ennill gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol [ym Mhrifysgol Abertawe] roi’r hyder i mi gyhoeddi fy ngwaith, ynghyd â’r adborth, gan nifer o bobl rwyf yn parchu eu barn, a’m hanogodd i gyhoeddi fy storïau. Yn llythrennol, mae cyhoeddi fy ngwaith yn wireddiad oes.”

Disgrifir y casgliad fel “gwaith aeddfed a galluog sy’n dangos ôl myfyrio. Aeth yr awdur ati’n uchelgeisiol –

a llwyddo – i greu cymhlethdod emosiwn lle buasai awdur llai abl wedi bodloni ar rwyddineb melodrama,” gan Eurig Salisbury. Tra bod Jon Gower yn ei ddisgrifio fel “Llais ffres ac egnïol sy’n perthyn i awdur sy’n deall hanfodion y stori fer.”

Yn y gyfrol mae’r awdur yn rhoi ei gymeriadau ar y dibyn, ar ‘riniog y porth’, ac yn eu gorfodi nhw i wneud dewisiadau arwyddocaol. Mae’r casgliad yn pendilio rhwng yr ysgafn a’r dwys, y real a’r goruwchnaturiol. Ceir cyfuniad o straeon cyfoes a straeon sy’n portreadu bywyd cefn gwlad fel y bu.

Meddai Andrew Teilo:

“Os oes yna linyn, efallai mai ‘byrhoedledd pethau’ yw hynny. Mae’n destun oesol, ydy, ond un sydd yn ddi-ball ei ddefnydd. Lliwgar ac unigryw yw cymeriadau’r gyfrol, mewn storïau sy’n newid cywair y cyfanwaith fesul un.”