Iwcs yn cyhoeddi ei ail nofel - Dal Arni
Yn dilyn llwyddiant nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts, Dal y Mellt, bydd nofel ddilyniant, Dal Arni, yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa ar y 20 Tachwedd.
Cafodd y nofel gyntaf, Dal y Mellt, ei throsi yn gyfres deledu ar S4C – a’i gwerthu i Netflix. Hon oedd y ddrama cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed i gael ei ffrydio ar Netflix.
Mae Dal Arni yn cychwyn union ble y gadawyd pethau ar ddiwedd Dal y Mellt a’r tro hwn, mae gangsters Hustons and co yn dynn ar sodlau’r criw, yn benderfynol o ddial arnynt am ddwyn y deiamwntiau.
Yn ôl Llyr Morris, Uwch-gynhyrchydd Dal y Mellt a phennaeth cynhyrchu Vox Pictures, “Unwaith eto mae dawn geiriau Iwcs yn dod a stori gyffrous yn fyw i'r darllenydd o'r dudalen gyntaf.
“Wrth ail gydio yn y stori ar ddiwedd Dal y Mellt, mae Dal Arni yn hawlio sylw yn syth, gyda'r criw hoffus o gymeriadau cryf ac eiconig yn ei diddanu a'n cyffroi.
“Mae disgrifiadau unigryw Iwcs yn lleoli'r meddwl yn glir ymhob sefyllfa a hawdd yw gweld pam fod yr ail nofel yma yn mynd i weithio'n wych fel cyfres ddrama ar y teledu unwaith eto.
“Ni fydd helyntion diweddara Carbo a'r criw yn siomi."