Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hiwmor y fferm yn ysbrydoli awdur adnabyddus i ysgrifennu i blant

Am y tro cyntaf, mae’r awdur o fri, Gareth Evans-Jones, wedi ysgrifennu llyfr i blant. Mae Llanddafad yn gyfrol hardd, lawn hiwmor wedi’i selio ym myd y defaid. Ceir 12 pennod – pennod ar bob mis o’r flwyddyn sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau perthnasol i blant heddiw– Pen-blwydd, Ffŵl Ebrill, Mabolgampau, Eisteddfod, Calan Gaeaf, Tân Gwyllt a’r Nadolig. Yn ogystal, mae cyfeiriadau at ddigwyddiadau pwysig ym myd y defaid megis diwrnod cneifio a’r wyna.

Mae Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan, Ynys Môn wedi’i fagu ar fferm, ac felly nid yw’n syndod bod Gareth wedi troi i fyd sy’n gyfarwydd iddo. Esboniodd Gareth: “Felly dyma grwydro i Landdafad a dilyn hynt a helynt y defaid, Gori’r iâr goch, Celyn y ci defaid (sydd wedi’i henwi ar ôl fy nghi defaid i go iawn!), a nifer o anifeiliaid eraill, gyda sawl tro trwstan a dipyn o hiwmor, gan hefyd, gobeithio, dynnu sylw at ambell agwedd berthnasol i’n byd: o ran dathlu’r hyn sy’n ein huno yn hytrach na’n gwahaniaethu, pwysigrwydd dangos parch a gofal, a chofio am dro tymhorau’r flwyddyn ac mewn bywyd.”

O dan yr hwyl a’r miri, llwydda’r awdur i rannu gwersi bywyd pwysig. Trafodir y pwysigrwydd o weithio fel tîm, ei bod hi’n bwysig bod yn sensitif i deimladau eraill ac mai cystadlu sy’n bwysig nid ennill! Ymdrinnir hefyd â phynciau megis cyfeillgarwch, rhagfarn, marwolaeth a delwedd.

Artist y gyfrol ydy Lleucu Gwenllian. Daw Lleucu yn wreiddiol o Ffestiniog ond mae hi bellach yn byw ym Macedonia. Er nad oes gan Lleucu gefndir amaethyddol, cyfaddefodd iddi “ddisgyn mewn cariad gyda'r holl gymeriadau lliwgar.”

Mae’r llyfr hwn yn apelio at blant heddiw gyda’i gymeriadau doniol, ei themâu cyfoes, a’i luniau bywiog.