Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hanes Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd yn ysbrydoli nofel newydd

Mae tref Llanrwst a’r Ail Ryfel Byd wedi ysbrydoli nofel newydd gyffrous sydd yn ymwneud â chariad, cyfrinachau a brad. Mae Amser Drwg Fel Heddiw gan Iwan Meical Jones yn nofel hanesyddol sy’n portreadu tref unigryw Llanrwst yn yr amser a fu.

Meddai’r awdur, Iwan Meical Jones:

“Roedd gen i syniad ers amser o rywun yn mynd drwy brofiadau anodd yn ei fywyd ac yn gorfod dygymod â nhw. Wrth wneud hynny, mae rhywun yn dysgu sut i drafod problemau ac yn newid o’i herwydd. Y syniad oedd gen i oedd, pan mae rhywun mewn trafferth mae pob dewis yn anghywir mewn rhyw ffordd, a dangos sut bod pethau da yn medru dod o’r pethau drwg. Roedd yr Ail Ryfel Byd yn gyfnod anodd iawn i’r mwyafrif o bobl ac yn addas iawn felly ar gyfer stori fel hon.”

Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd oedd un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes Cymru. Roedd perygl i’r wlad gael ei goresgyn gan Yr Almaen, a gorfodwyd llawer o fechgyn Cymru i ymladd dros yr Ymerodraeth Brydeinig a merched Cymru i weithio mewn ffatrïoedd arfau. Meddiannodd y fyddin ardaloedd fel Epynt a heidiodd dinasyddion Lloegr i bentrefi a threfi Cymru fel ifaciwîs.

Mae tref a chymeriadau Llanrwst yn allweddol yn y nofel, oherwydd bod teulu’r awdur yn wreiddiol o’r ardal. Meddai Iwan Meical Jones:

“Er i mi adael Llanrwst yn blentyn tair oed, roeddwn yn mynd yn ôl bob gwyliau am flynyddoedd, ac roedd y teulu bron i gyd o Lanrwst. Roeddwn yn gwybod am hanes fy nhad a pherthnasau eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae hanes sawl cymeriad yn y nofel yn seiliedig ar eu hanes nhw. Roedd hi’n amhosib i mi osod y stori yn unrhyw le arall, gan mai yn Llanrwst roedd y cymeriadau i gyd yn perthyn.”

Mae Amser Drwg Fel Heddiw yn dilyn bywyd y meddyg Dr Lewis Huws yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daw’r rhyfel â phwysau mawr ar fywyd Dr Huws a hynny yn bennaf oherwydd ei gamgymeriadau ef ei hun yn ei ymwneud â’i gyfeillion a’i gariadon. Mae’r nofel yn olrhain ei brofiadau anodd sy’n gwneud iddo ail-ystyried rhai pethau, ac yn y pen draw mae ei fywyd yn dechrau gwella.