Gareth yr Orangutan yn cyhoeddi llyfr
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus ar S4C, mae orangutang mwyaf enwog Cymru, Gareth ar fin cyhoeddi hunangofiant sy’n rhannu straeon personol a gonest am bethau pwysig yn ei fywyd fel ei gariad at chips, nain Deiniolen a thor-calon.
Cychwynnodd gyrfa Gareth yr Orangutang ar sianel YouTube Hansh, ac mae ei fideos yn dal i fod yn y rhai mwyaf poblogaidd ar y sianel. Yna, daeth ei gyfres deledu - Gareth! Profodd ei ganeuon a’i gyfweliadau byw gyda phobl megis Eden, Ywain Gwynedd a Elin Fflur yn boblogaidd gyda phlant a phobl fel ei gilydd.
Tra’n trafod y llyfr, dywedodd Gareth, “Er bod y llyfr ’ma amdana fi, dwi’m yn dda iawn yn siarad am fi fy hun. Dwi’m yn meddwl bo’ neb yn.
“Dwi’n hapus yn sôn am bethau sy ’di digwydd i fi, fel pan ’nesh i fynd i Rhyl ac ennill Minion ar claw machine yn yr arcades (£185.50 gora dwi rioed ’di wario). Neu, pan ’nesh i fynd am gyfweliad swydd yn Prifysgol Bangor fel darlithydd bioleg morol ar ôl deud clwydda ar fy CV (mae pawb yn neud o).
“Mae’r gwirioneddau gwirion yma’n rhoi cip-olwg arnaf i fel person, fel darn bach o’r portread cyflawn.”
Mae’r hunangofiant yn cynnwys pob math o hanesion am ei fywyd a’i farn am y byd ac yn cynnwys pytiau o’i hoff gyfweliadau efo enwogion Cymru, geiriau rhai o’i ganeuon a gemau hawdd i chwarae yn y car. Mae hefyd yn siarad yn onest am ei deimladau, a’i ddyheadau at y dyfodol.
Tra’n trafod y llyfr, dywedodd Gareth, “Do, mae’r ‘mwnci off y teli’ wedi sgwennu llyfr. Ti’n gwbod be sydd hyd yn oed mwy shocking? Mae’r llyfr yn wych. Doniol, clyfar, addysgol, diddorol, action-packed, brawychus, rhamantus, trist, ysbrydoledig, dirgelus, a ffraeth,”
Ychwanegodd “Mae pobl yn gofyn i fi o hyd - ‘Pam bo’ chdi’m ar Hansh rwan Gar?’ ‘Pryd ti’n neud mwy o chat shows hileriys chdi?’ ‘Be mae selebs Cymru fel go wir Gar?’ ‘Sut fedrai sgwennu caneuon gystal â chdi?’ ‘Be ydi’r cyfrinach i comedi?’ ‘Sut mae’r love life?’ ‘Pam bo’ chdi’n lyfio chips gymaint?’ ‘Pam bo’ chdi’n siarad fel ‘na?'
“Mae’r atebion i’r cwestiynau yma, a mwy, yn Y Llyfr, gan Gareth yr Orangutan.
“Os wti’n ffan o fy
ngwaith, neu yn nabod rhywun sydd yn, hwn ydi’r llyfr i chdi, neu nhw.”