Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Epig ffantasïol newydd am ferch yn ceisio achub ei brawd

Gyda chwedlau’r Mabinogi a The Hobbit ymysg hoff straeon yr awdur, yr wythnos hon cyhoeddir epig ffantasïol newydd, Trigo gan awdur newydd. Yn fab i’r awdur Mari Emlyn a’r actor a digrifwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts, mae Aled Emyr hefyd yn aelod o’r band Achlysurol ac yn chwarae i fandiau adnabyddus eraill yng Nghymru.

Meddai’r awdur Aled Emyr:

“Dechreuais gyda’r syniad o grŵp o bobl wahanol yn mynd ar daith i geisio achub gwraig arglwydd nôl yn 2016. Ar ôl sgwennu’r prolog roeddwn yn gwybod bod angen newid un peth. Wrth ddarllen mwy am chwedlau’r Mabinogi nes i sylwi fod llawer o’r straeon yn ymwneud â dyn yn ceisio achub merch. Newidiais fy stori i fod yn ferch yn mynd ar daith i geisio achub ei brawd.”

Ar ddechrau’r nofel, fel nifer o nofelau lle mae’r prif gymeriad yn mynd ar daith achub rhywun, mae yna fap o’r Pedair Ynys a choeden deulu –  y ddau wedi’u dylunio gan frawd yr awdur, Ifan Emyr. Meddai Aled Emyr:

“Dwi’n lwcus iawn o fy mrawd, sy’n hoffi’r un math o lyfrau a ffilmiau â fi. Mae e hefyd yn diddori mewn mapiau ac yn rhedeg busnes ei hun yn gwerthu mapiau. Dwi wrth fy modd bod y nofel yn medru cynnwys map o’r Pedair Ynys a choeden deulu!” [Gweler isod am gopi o’r map]

Mae Trigo yn ymwneud â dial a chyfiawnder, llygredd a phŵer, unigrwydd a chyfeillgarwch. Rhennir y nofel yn dair adran, ‘Gadael Afarus’, ‘Brwydr y Pedair Ynys’ a ‘Dianc o’r Tywyllwch’, gan ddilyn hanes trigolion y Pedair Ynys a’r rhwystrau a’r tensiynau a ddaw i’w rhan. Ger y Pedair Ynys, mae yna ynys fechan o’r enw Ynys Trigo. Yno mae Calrach wedi ei gloi yn Ogof Tywyllwch ac yn ceisio darganfod ffordd o ddianc. Wrth i’r Pedair Ynys gweryla â’i gilydd, mae Enid, merch Arglwydd Ynys Afarus yn cychwyn ar daith beryglus i geisio dod o hyd i’w brawd Pedr, sydd wedi ei gipio o’i ystafell yng nghanol y nos. Gyda chymorth y dewin Gwydion, mae Enid yn dysgu am gyfrinachau’r gorffennol all ddinistrio’r Pedair Ynys am byth.

Meddai Aled Emyr:

“Un o’r syniadau cyntaf oedd gen i ar ôl y prolog oedd bod cyfeillgarwch rhwng dau ffrind ar ynysoedd gwahanol. Er nad ydy’r ddau deulu yn hoff o’i gilydd mae Enid a Siwan yn dipyn o ffrindiau. Ar ôl gorffen ysgrifennu’r nofel, penderfynais gyfansoddi cân i fynd efo’r rhan yma o’r stori gan gyfuno dau o fy niddordebau pennaf; sgwennu a cherddoriaeth. Dau lythyr yw geiriau’r gân, un gan Enid, ac un yn ateb gan Siwan. ‘Llawer o Gariad’ yw enw’r gân a dwi’n gobeithio gallu rhyddhau’r gân yn fuan!”