Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant

Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019 – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant.

Dywedodd yr artist, Sioned Medi Evans: “Mae’n anodd credu bod bron i bum mlynedd wedi hedfan heibio ers i mi a Rhiannon ddechrau cydweithio gyda’n gilydd, y ddwy ohonom ni’n frwd i ddatblygu ein crefft fel awdur a darlunydd gan greu straeon cyn cysgu i blant. Roedd creu a chyhoeddi’r straeon ar ein gwefan yn brofiad gwych fel rhywun oedd yn megis dechrau ar y daith fel darlunydd, rhoddodd yr awch i mi barhau a chreu mwy. Mae cyhoeddi ein llyfr cyntaf ni gyda’n gilydd yn freuddwyd ymysg y cant a mil”.

Mae’r ddwy wedi llwyddo i greu cyfrol gyffrous, ddeniadol, gyda chymeriadau a sefyllfaoedd cwbl Gymreig. Mae’r straeon hefyd yn cynnwys cymeriadau sy’n cael eu tangynrychioli, boed hynny oherwydd hil, anabledd neu rywedd rhieni.

Dyweda Rhiannon Lloyd Williams ei bod hi’n falch bod Sioned a hithau wedi gwireddu breuddwyd wrth “greu straeon llawn hud ac antur” efo’i gilydd. Mae’r gyfrol yn cynnwys 10 stori amrywiol sy’n berffaith i’w darllen cyn cysgu. O barot sydd methu chwibanu i fwci bo sydd wedi colli ei jeli, o’r dewin mwyaf doniol yn nheyrnas Dimlle i ddewis y tŷ bach perffaith – mae yna stori at ddant pawb yn y llyfr hwn!

Anelir y gyfrol at blant ifanc i’w mwynhau wrth swatio cyn cysgu efo’u rhieni. Er hyn, byddai’r delweddau bywiog ac arddull hawdd i ddarllen hefyd yn apelio at blant hynach i ddarllen yn annibynnol er mwyn cael cant a mil o freuddwydion hapus!