Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ditectif newydd yn ffurfafen ffuglen Gymraeg

Yn dilyn poblogrwydd ei drioleg am Dditectif Taliesin MacLeavy, a llwyddiant ei nofel i bobl ifanc, mae’r awdur Alun Davies yn ôl gyda stori dditectif newydd i’n cadw ar flaenau ein traed.

Meddai’r awdur:

"Dwi'n gyffrous i gyflwyno ditectif newydd i'r darllenwyr, a gobeithio y bydda nhw yn mwynhau dod i adnabod Moses John, yn ogystal â dod ar siwrnai i Aberystwyth yn ôl i 1997. Ac i rheini sy'n gweld eisiau Taliesin MacLeavy, dwi'n siwr y byddwch chi'n adnabod ambell enw cyfarwydd o'r drioleg hefyd!"

Meddai’r awdur a chyflwynydd radio Aled Hughes,

“Chwip o nofel arall gan Alun Davies, storïwr crefftus sy’n feistr ar greu gwe hyfryd. Mi wnes i ei llowcio hi mewn un eisteddiad.”

Pwy yw Moses John? yw pumed nofel yr awdur, ac un sydd eto gydag Aberystwyth yn gefnlen i’r stori ac yn gymeriad yn ei hun.

Mae’n 1997 ac mae’r cyn-dditectif Moses John yn ceisio cofio manylion achos y bu’n arwain a’r llofrudd, Kharon. Mae atgofion y saith mlynedd flaenorol wedi diflannu o’i gof yn dilyn damwain car ddifrifol wrth iddo erlyn Kharon. Bu farw Kharon yn y ddamwain, ond pan fo llofruddiaethau tebyg yn dod i’r wyneb, mae Moses John yn ail-astudio’r achos a cheisio datrys y dirgelwch cyn i’r llofrudd daro eto.

Dyma’r ail dditectif i Alun Davies ysgrifennu amdano, gyda’r drioleg Scandi-noiraidd am y Ditectif Taliesin MacLeavy (Ar Drywydd Llofrudd, Ar Lwybr Dial ac Ar Daith Olaf) yn cael eu canmol gan feirniaid a darllenwyr. Fe enillodd Alun Davies wobr Tir na n-Og 2023 yn gynharach eleni am y llyfr gorau i blant oed Uwchradd gyda’i gyfrol wedi’i ddylanwadu gan y Mabinogi, Manawydan Jones: y Pair Dadeni.