Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Datgelu cyfrinachau enwau caeau Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal. 

Datblygodd y gyfrol o ymchwil doethuriaeth yr awdur ac ynddi fe ddadlennir sut y gall yr ystyr y tu ôl i enwau lleoedd, ffermydd a chaeau uno tirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru gyfan. Dangosodd ffrwyth ymchwil Rhian Parry fod y mwyafrif o’r enwau ffermydd a chaeau yn hynafol iawn, hyd at chwe chanrif oed a mwy.

Meddai’r awdures Rhian Parry:
“Dim ond drwy gerdded y caeau y gallwn sylwi ar nodweddion y tir a sylweddoli bod yr enw a ddewiswyd yn hollol addas. Weithiau, mae enw hynafol yn ein cyffwrdd oherwydd cyd-destun ei leoliad, fel Cae Saffrwn yng Nglynebwy. Pwy fyddai’n disgwyl gweld crocws mewn dyffryn mor ddiwydiannol?”

“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw. Bydd rhai enwau hynafol yn gyrru ias i lawr asgwrn fy nghefn, teimlad tebyg iawn i’r hyn a gaf wrth gyffwrdd â maen hir yn uwchdir Ardudwy. Teimlad anghyfarwydd, diflanedig a bron iawn bellach na fyddaf yn cyffwrdd ag atgof rhywbeth.”

Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol ac yn diflannu’n gyflym iawn. Gobeithir bod y gyfrol yma, ynghyd â gwaith gan sefydliadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yn gofnod i’r dyfodol, yn ail-gyflwyno enwau sydd erbyn hyn yn angof ac yn ysbrydoli astudiaethau tebyg dros Gymru.

Mae’r gyfrol clawr caled hon wedi ei ddarlunio’n hardd gan luniau a mapiau.