Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi hanes Siân Phillips, y seren fyd-enwog o Waun Cae Gurwen

Bydd hanes y seren fyd enwog Siân Phillips yn cael ei rhannu mewn cyfrol newydd o’r un enw gan y Lolfa – o’i magwraeth yn Waun Cae Gurwen i’w gyrfa lewyrchus yn teithio’r byd a’i phriodas gythryblus gyda’r actor Peter O’Toole.


Mae’r llyfr yn ffrwyth llafur blynyddoedd o waith ymchwil gan yr awdur, y darlledwr Hywel Gwynfryn. Mae’n dilyn pedair cyfrol arall mae Hywel wedi ei ysgrifennu am Gymry enwog, yn ogystal â’i hunangofiant.

Meddai Hywel, “Mi oedd Siân Phillips yn ddewis amlwg ar gyfer y gyfrol nesaf. Mi oeddwn yn gwybod fod ganddi straeon anhygoel yn ffilmio ym mhedwar ban byd gyda rhai o actorion mwya’r cyfnod, ond hefyd yr heriau wynebodd hi yn ystod ei bywyd personol.

“Roedd hi a’i ail ŵr, Peter O’Toole yn gwpl hynod drawiadol – dau actor talentog wedi syrthio mewn cariad…ond mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn berthynas iach, gyda O’Toole yn ei rheoli a’i chadw hi lawr – ar lefel broffesiynol a phersonol.”

Roedd gan Siân berthynas anodd gyda’i mam hefyd ac er iddi ei hannog a’i dysgu i lefaru mewn Eisteddfodau, doedd hi ddim eisiau iddi fod yn actores. 

 

Pan gafodd Siân gynnig lle i astudio yn RADA Llundain, gwrthod fu rhaid iddi y tro cyntaf gan nad oedd ei mam yn ystyried actio yn yrfa addas iddi.

Dywedodd Hywel, “Roedd perthynas Siân a’i mam yn anodd a chymhleth, a’r ffaith iddi oresgyn hynny yn brawf o benderfyniad Siân i’w gwneud hi fel perfformwraig. 

“Roedd hefyd yn lwcus o anogaeth pobl megis ei hathro Cymraeg yn yr ysgol, Eic Davies a’r actor amryddawn Hugh Griffith welodd ei photensial yn syth. Un arall roddodd hwb i’w gyrfa oedd yr arloeswraig Nan Davies, roddodd ei swydd gyntaf iddi fel cyflwynydd ar y BBC ar ôl ei chlywed yn llefaru yn Eisteddfod Llandybie 1944.”

Ychwanegodd Hywel, “Mae na un stori sydd wedi aros efo fi fwy na dim un yn y llyfr – sef hanes Siân yn mynd i weld ei phantomeim cyntaf yn 6 oed gyda’i mam-gu yn Abertawe.

“Cafodd ei chyfareddu gan y goleuadau, y gwisgoedd lliwgar, y cyrten mawr coch efo’r ymyl aur ac ar ôl cyrraedd adref, ysgrifennodd yn ei dyddiadur, yn 6 oed – ‘I am now resolved to be an actress’

“A dw i wedi cydio yn hynny yn y llyfr, gan fod y frawddeg yna yn linyn trwy ei bywyd hi – ei phenderfyniad di-droi-nol i fod yn actores, er gwaethaf pob rhwystr a diffyg anogaeth gan y bobl agosaf ati.”